Coetiroedd

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Creu a rheoli coetiroedd

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

  • Cynnydd o 11% (Sylfaenol) neu 20% (Uwch) yn nifer y ffermydd a adferodd neu a greodd goetiroedd yn tair blynedd ddiwethaf o'i gymharu â ffermydd y tu allan i'r cynllun.
  • Roedd coetiroedd yn fwy tebygol o gael eu rheoli er mwyn bod yn 'gynefinoedd bywyd gwyllt' yn hytrach nag yn 'lloches i dda byw' os oedd y ffermydd yn lefel Uwch Glastir.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Mae model LUCI yn rhagamcanu cynnydd cymharol fychan o 3% yn yr ardaloedd sydd ar gael i rywogaethau coetiroedd llydanddail erbyn diwedd 2016, a hynny yn sgil amodau sydd wedi'u cynnwys yng nghontractau Glastir.
  • Edrychwyd ar yr hyn sy'n rhwystro pobl rhag manteisio ar Gynllun Creu a Rheoli Coetiroedd Glastir gan ddefnyddio'r Arolwg o Arferion Ffermwyr, grwpiau ffocws a chyfres o gyfweliadau wedi'u strwythuro. Roedd y prif resymau dros beidio â chael grant ar gyfer rheoli coetiroedd, ar ôl diffyg diddordeb mewn rheoli coetiroedd, yn cynnwys prinder tir (29%), dim digon o amser i arallgyfeirio (28%), diffyg gwybodaeth neu offer (28%), a'r honiad bod y cynllun yn rhy gymhleth.
  • Dyma'r argymhellion i gael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag bod yn rhan o'r cynllun:
    • Dylid symleiddio'r broses ymgeisio gan fod yr amodau gweithredu yn rhwystr
    • Mae angen i'r cynllun fod yn fwy hyblyg er mwyn rhoi sylw i ddylanwadau allanol
    • Mae'r broses archwilio yn gymhleth. Mae angen i'r cosbau fod yn gliriach a'r broses archwilio yn llai bygythiol
    • Mae cyfraddau'r taliadau yn aneglur. Mae dryswch ynghylch yr hyn sy'n berthnasol a'r cyfraddau ar gyfer llafur a gaiff ei gontractio.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Creu a rheoli coetiroedd

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Bu gwelliant yn y planhigion sy'n dynodi cyflwr da mewn coetiroedd llydanddail mawr dros y 10 mlynedd ddiwethaf, sy'n awgrymu bod camau rheoli yn gwella.
  • Bu cynnydd diweddar yn y Dangosydd Adar Coetir yn Arolwg Adar Magu'r BTO/JNCC/RSPB.
  • Sefydlogrwydd yn yr holl fetrigau cyflwr eraill gan gynnwys cysylltedd, maint darnau o dir a'r mynegai golau/cysgod dros y 10 mlynedd ddiwethaf.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Dim newid yn arwynebedd coetiroedd bychan (< 0.5ha). Mae'r arwynebedd bychan lle plannwyd coed o dan y cynllun (3,923 ha) o fewn yr amrywiad yn sampl RhMGG. Nid yw'r Rhestr Goedwigaeth Genedlaethol ar hyn o bryd yn cynnwys y coetiroedd bychain hyn, a dyma'r coetiroedd y mae Glastir yn fwyaf tebygol o effeithio arnynt. Nid yw'n ymddangos bod hyn yn adlewyrchu'r targedau uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ehangu coetiroedd, nac yn elwa ar y manteision niferus y gall coetiroedd eu creu i fioamrywiaeth, dal a storio carbon a rheoleiddio dŵr.

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

FIGURE-GMEP-W-OUTCOME-A-3

 

FIGURE-GMEP-W-OUTCOME-B-1

 

TABLE-GMEP-W-OUTCOME-A-3