Dŵr croyw

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

Roedd y gwelliannau canlynol i'w gweld yn y ffermydd sy'n rhan o'r cynllun o'u cymharu â ffermydd y tu allan i'r cynllun:

  • 29% yn fwy tebygol o fod wedi rhoi ffensys o amgylch nentydd
  • 26% yn fwy tebygol o fod wedi sefydlu lleiniau clustogi ar gyfer llystyfiant a thir heb ei drin
  • 6.8% yn fwy o ffermydd yn gorchuddio tomennydd tail a chynnydd o 8% mewn graddnodi taenwyr gwrtaith, a'r rheini sy'n fwy tebygol o gynyddu maint eu storfa slyri

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Mae'r rhagamcanion a fodelwyd o effeithiau net Glastir ar leihau llygryddion o'r holl dir amaethyddol (h.y. yn cynnwys tir nad yw'n rhan o Glastir) drwy'r model Farmscoper yn isel, sef tua 1%. Mae'r gostyngiadau hyn yn sylweddol is na'r rheini a ragamcanwyd ym mlwyddyn 1 ar gyfer yr holl dir amaethyddol yng Nghymru. Bryd hynny, senarios o'r rheini a fyddai'n cyfrannu a ddefnyddiwyd yn hytrach na'r gwir nifer.
  • Mae'r gostyngiad wrth leihau llygryddion ryw ddwywaith yn fwy (h.y. 2%) ar y tir sy'n cael ei reoli gan ffermydd sy'n rhan o Glastir, gyda gostyngiadau mwy yn bosibl ar lefel fwy lleol. Mae nifer y rhieni sy'n cymryd rhan yng nghynllun Glastir a maint y tir dan sylw o fewn deiliadaethau tir unigol ill dau yn cyfyngu ar effaith Glastir yn hyn o beth. Nid oes perthynas rhwng cytundebau Glastir a'r ardaloedd lle mae'r lleihad mewn maethynnau o'r pridd drwy drwytholchi a dŵr ffo, a nitrad yn enwedig, ar ei fwyaf (e.e. Sir Benfro, Ynys Môn). Effaith gyfun yr holl ddulliau hyn, o gynyddu'r gweithredu i 100%, yw lleihad mewn llwyth amaethyddol cenedlaethol o 4% ar gyfer nitrad, 8% ar gyfer ffosfforws ac 11% ar gyfer gwaddod. Mae potensial i'r cynllun gael effaith leol sylweddol pe bai ffocws mwy dwys i'r opsiynau.
  • Mae modelau LUCI yn rhagamcanu cynnydd o 3% (11,641 ha) mewn tir lle mae camau'n cael eu cymryd i liniaru'r risg o lifogydd a throsglwyddo nitrogen a ffosfforws i afonydd, a hynny yn sgil newidiadau sydd wedi'u cynnwys yng nghontractau Glastir. Tir lle cymerir camau lliniaru yw'r ardal uwchben nodwedd a ddefnyddir i gymryd y camau hynny, a hwnnw'n lleihau'r cysylltiad uniongyrchol rhwng tir a dŵr gan leihau'r maethynnau sy'n cael eu colli drwy ddŵr ffo. Mae'r cynnydd wedi dod yn sgil creu dim ond 4,120 ha o dir lle cymerir camau lliniaru. Mae hynny'n golygu teirgwaith y budd yn sgil troi tir a addaswyd yn fanteision i dir.
  • Mae'r model Farmscoper a'r model LUCI a ddefnyddiwyd yn yr asesiad hwn yn cytuno bod y gostyngiad mewn llygredd maethynnau gwasgaredig yn debygol o fod yn gymharol fychan h.y. 1-3%, sy'n cynyddu ein hyder yng nghanlyniad y gwaith modelu.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, mae dadansoddiad o ddata nentydd bychain gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod amrywiaeth infertebratau a statws maethynnau yn parhau i wella. Mae gwaith samplo RhMGG o nentydd blaenddwr yn dynodi bod gan dros 80% lefelau amrywiaeth uchel yn ôl y dangosyddion ar gyfer infertebratau. Amcangyfrifir bod tua 9.5 i 16 mil cilomedr o nentydd blaenddwr yng Nghymru, ac maent yn gynefinoedd cadwraeth sy'n flaenoriaeth ar gyfer amrywiaeth o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid nodweddiadol, felly mae'r canlyniad hwn yn galonogol.
  • Bu gwelliant cyffredinol yn arferion ffermydd Cymru rhwng 2009 a 2016 wrth wella ansawdd dŵr, a hynny drwy ddefnyddio adnoddau'n fwy effeithlon a rheoli llygredd dŵr gwasgaredig. Roedd y dulliau hyn yn gymharol syml i'w rhoi ar waith ac yn golygu costau cyfalaf isel, fel graddnodi taenwyr gwrtaith, yn enwedig wrth reoli tail ar ffermydd gwartheg a defaid. Mae'r camau rheoli hyn wedi cael eu hannog drwy gyngor a chanllawiau gan y llywodraeth a'r sector amaethyddol, yn fwyaf nodedig drwy'r Cod Ymarfer Amaethyddol Da, trawsgydymffurfio, Tried and Tested, a Chyswllt Ffermio.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Dim ond 13% o'r pyllau dŵr a samplwyd y barnwyd eu bod mewn cyflwr ecolegol da. Mae pyllau dŵr yn bwysig i dirwedd Cymru gan eu bod yn rhoi bywyd a chynefinoedd nodweddiadol. Maent yn galluogi bywyd i ledaenu ar draws pellteroedd eang a hefyd yn rhoi lloches i fywyd gwyllt. Maent hefyd yn gynefinoedd sy'n flaenoriaeth o dan gyfarwyddeb cynefinoedd yr UE. Mae cynefinoedd pyllau dŵr Cymru yn helaeth, gyda thua 57,800 o byllau i gyd. Mae angen rhagor o ddadansoddi er mwyn canfod achos y cyflwr gwael hwn, a allai gynnwys arferion gwael wrth eu creu, oedi ar ôl creu pwll, dŵr ffo o gaeau cyfagos ac ati.
  • Canfuwyd fod da byw yn gallu mynd tuag at 55% o nentydd bychain yn rhwydd. Mae hyn yn cynyddu'r risg o ddifrod i'r glannau a lefelau gwaddod uwch, ac mae hefyd yn cynyddu'r risg o lefelau ffosfforws a phathogen uwch. Mae gan yr olaf o'r rhain oblygiadau i welyau pysgod cregyn, iechyd dynol a gweithgareddau hamdden. Dylid nodi ei bod yn hanfodol bod rhywfaint o stoc yn gallu mynd at nentydd, a hynny er mwyn infertebratau arbenigol sy'n dibynnu ar waddod afonydd.

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

FIGURE-GMEP-FW-OUTCOME-A-1

 

FIGURE-GMEP-FW-OUTCOME-B-1

 

FIGURE-GMEP-FW-OUTCOME-C-3

 

FIGURE-GMEP-FW-OUTCOME-D-1

 

TABLE-GMEP-FW-OUTCOME-A-3

 

TABLE-GMEP-FW-OUTCOME-B-1

 

TABLE-GMEP-FW-OUTCOME-C-1