Rheolaeth Data

Available Translations:

Rheolaeth Data

Mae'n rhaid i Raglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG), fel un o'r rhaglenni sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ddilyn Codau Ymarfer ar y Cyd Joint Codes of Practice for Research (JCoPR) sy'n nodi'r safonau ar gyfer ansawdd gwyddoniaeth ac ansawdd prosesau ymchwil. Mae'n sicrhau bod dulliau ymchwil yn gadarn ac maent hefyd yn rhoi hyder bod y prosesau a'r gweithdrefnau a ddefnyddir i gasglu a dehongli'r canlyniadau yn briodol, yn drylwyr, yn amlroddadwy ac yn archwiliadwy. Mae'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg hefyd yn datblygu System Rheoli Ansawdd yn seiliedig ar y Safon Ryngwladol ISO9001 , safon rheoli ansawdd sy'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol. Mae RhMaGG yn cael ei rheoli yn unol â'r safon hon. Yn unol â'r ddwy safon, sefydlwyd nifer o brosesau a gweithdrefnau er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth.     

Fynonellau Data

Fynonellau Data

Arolwg Maes

Mae dulliau casglu data cywir gan arolygwyr maes yn hollbwysig ar gyfer unrhyw waith dadansoddi dilynol, ac mae'n rhaid ei wirio wrth ei gofnodi. Datblygwyd meddalwedd arolwg maes pwrpasol, y gellir eu rhedeg ar gyfrifiaduron maes wedi'i datblygu er mwyn sicrhau bod yr holl waith o fapio cynefinoedd a'r disgrifiadau o nodweddion yn cael eu gwirio yn erbyn rheolau a fformatau rheoli ansawdd wrth iddynt gael eu creu. Mae hyn yn golygu y gallwn fod yn hyderus yn ansawdd y data o.r maes ac y gallwn fwydo'r data hyn yn gyflym i ddadansoddiadau awtomataidd. Mae rhaglen hyfforddi drylwyr yn sicrhau cysondeb a chywirdeb ymhlith arolygwyr medrus iawn.

Modelu

Mae modelau gwyddonol yn cael eu cadw mewn cadwrfeydd sy'n rheoli fersiynau gydag unrhyw newidiadau i god y ffynhonnell, gwybodaeth ychwanegol neu wybodaeth wedi'i dileu wedi'u cofnodi'n glir. Mae disgrifiadau llawn o'r modelau, ynghyd â'r holl baramedrau mewnbwn, y setiau data gofynnol, â'r allbynnau yn cael eu cadw ar ofod wiki y prosiect cydweithredol.

Fynhonellau data allanol

Mae setiau data trydydd parti yn cael eu cadw dan drwydded mewn cronfa ddata ofodol Oracle, gyda phob partner prosiect yn cael mynediad i'r data sydd eu hangen arnynt o'u cysylltiad eu hunain. Mae'r setiau data yn cynnwys y niferoedd sy'n manteisio ar Glastir a chynlluniau etifeddol, hydroleg, ffiniau tir, cynefinoedd a gorchudd tir, yr hinsawdd, priddoedd, Arolwg Ordnans, mapio, ffotograffau o'r awyr a nodweddion hanesyddol.

Mae pob set ddata sydd wedi'i chynnwys yn y gronfa dda wedi'i chofnodi'n llawn ar safle wiki y prosiect

Gweithdrefnau a Phrotocolau

Mae gweithdrefnau a phrotocolau.r prosiect yn cael eu cofnodi, eu cymeradwyo a'u hadolygu'n rheolaidd; a defnyddir safle prosiect cydweithredol RhMaGG ar y we (SharePoint) i reoli'r gwaith o reoli fersiynau'r holl ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r prosiect.

Dadansoddiad labordy

Cynhelir holl waith dadansoddi cemegol yn unol â gofynion safon ISO17025. Ac mae holl .Weithdrefnau Gweithredu Safonol. y labordy yn diwallu.r gofynion hyn.

Dadansoddiad labordy

 

Storio data

Mae'r holl setiau data sy'n cael eu cynhyrchu a'u derbyn gan y prosiect yn cael eu storio mewn cronfa ddata Oracle sy'n ddiogel ac sy'n rheoli mynediad. Drwy hyn, mae'r data'n cael eu rheoli'n ofalus, bydd mynediad ato ond yn cael ei gymeradwyo pan fydd trwyddedau data wedi'u cymeradwyo, a gall defnyddwyr niferus gael mynediad yr un pryd i'r setiau data mwyaf diweddaraf, ar gyfer ymholi a dadansoddi. Mae'r Ganolfan Data Gwybodaeth Amgylcheddol / Environmental Information Data Centre (EIDC)yn Ganolfan Ddata NERC, sy'n rheoli setiau data sy'n ymwneud â gwyddoniaeth ddaearol a dŵr croyw. Mae cadw setiau data yng Nghanolfan EIDC yn sicrhau y byddant yn cael eu storio'n ddiogel ac y byddant ar gael yn yr hirdymor. Mae EIDC hefyd yn darparu cyfleusterau catalogio a mynegeio data.

Mae Metadata yn cael eu cadw mewn cadwrfa gydweithredol ganolog ar y we (gofod Wiki). Mae'r holl setiau data sy'n cael eu casglu yn y maes neu eu dychwelyd o'r labordai, setiau data trydydd parti, sgriptiau prosesu data a sgriptiau dadansoddi yn cael eu cofnodi'n llawn gan staff y prosiect, ac yn cael eu mewnbynnu i'r safle wiki. Yna gall staff eraill y prosiect weld y setiau data diweddaraf, gofyn am fynediad i'r gronfa ddata, herio'r meysydd data neu'r dulliau dadansoddi a lawrlwytho metadata a dogfennaeth.

Storio data

 

Dadansoddi Data

Mae'r holl ddadansoddiadau prosesu, fformatio data ac ystadegol yn cael eu cwblhau gan ddefnyddio sgriptiau sydd wedi'u cofnodi'n dda. Mae hyn yn sicrhau bod pob agwedd o'r gwaith dadansoddi yn cael eu cofnodi a bod llwybr archwilio glir o bob cam o'r broses. Yna bydd sgriptiau a llifau gwaith yn cael eu cadw mewn cadwrfa ddiogel sy'n rheoli fersiynau.

Yn ogystal â defnyddio sgriptiau sydd wedi' cofnodi'n dda i gynnal y gwaith dadansoddi, mae pob rhediad penodol o'r sgript sy'n cynhyrchu canlyniadau yn cael ei ategu gan adroddiad sy'n rhoi crynodeb o'r dadansoddiad, sydd wedi'i arbed ar y gofod cydweithredol ar wiki. Mae hyn yn sicrhau bod gan bob set o ganlyniadau lwybr archwilio glir, mae'n amlroddadwy a gall unrhyw aelod o dîm y priosect ei ailgynhyrchu. Mae'r adroddiad hefyd yn cysylltu'n uniongyrchol i'r data mewnbwn ac allbwn cyfatebol a ddefnyddir yn y gwaith dadansoddi a'r cofnod metadata sy'n gysylltiedig â hyn.

Dadansoddi Data

 

Adrodd

Yn y dyfodol bydd data ar RhMaGG ar gael drwy archwilio catalog y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg / CEH data catalogue. Defnyddir y catalog i ddisgrifio daliadau data'r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg a'r gymuned ecolegol ddaearol a dŵr croyw. Mae'r catalog ar gael i'r cyhoedd chwilio drwyddo ar y rhyngrwyd ac mae'n storio metadata sy'n cydymffurfio ag INSPIRE ac unrhyw wasanaethau gweld a lawrlwytho cysylltiedig.

Adrodd