Available Translations:
Daeth y rhaglen waith ‘GMEP’ i ben yn 2016 ac nid yw gwefan y prosiect hwn bellach yn cael ei chynnal yn weithredol. Trefnir ei bod ar gael at ddibenion archifol ac i ganiatáu lawrlwytho deunyddiau a bostiwyd ar y wefan tra roedd yn brosiect gweithredol. Mae prosiect olynol â chysylltiad agos o’r enw ‘ERAMMP’ a gellir gweld manylion am waith ERAMMP yn www.erammp.cymru |
Cynllun rheolaeth tir cynaliadwy Llywodraeth Cymru yw Glastir ac mae'r cynllun yn talu am nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol sydd â'r nod o:
- Gwrthsefyll newid hinsawdd
- Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
- Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
- Atal colli bioamrywiaeth
- Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
- Creu coetir a'i rheoli
Mae Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMGG) wedi cael ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i asesu perfformiad Glastir. Cafodd RhMGG ei lansio yr un pryd â chynllun Glastir. Mae hyn yn darparu adborth polisi cyflym fel ei bod yn bosibl addasu'r cynllun er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.Cliciwch dolenni isod i gael gwybod mwy am gwaith mae RhMGG yn ei wneud o fewn y chwe amcan Glastir.