Pridd

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Gwella ansawdd a dulliau rheoli priddoedd

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

Roedd y gwelliannau canlynol i'w gweld yn y ffermydd sy'n rhan o'r cynllun o'u cymharu â ffermydd y tu allan i'r cynllun:

  • Cynnydd o 10% ym mha mor debygol oedd pobl o raddnodi taenwyr gwrtaith (o 62% i 72%).
  • Cynnydd o 10% ym mha mor debygol oedd pobl o brofi maethynnau pridd (o 51% i 61%).
  • 15% yn fwy tebygol o fod wedi gadael sofl mewn caeau er mwyn eu gwarchod dros y gaeaf (o 44% i 59%).
  • Gostyngiad o 9.4% yn y defnydd o wrtaith ffosffad ar gaeau sy'n laswelltir.
  • Gostyngiad o 6% yn niferoedd y defaid magu mewn ffermydd ar y lefel uwch.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Dim ar hyn o bryd. Mae data sylfaenol ar gael er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Gwella ansawdd a dulliau rheoli priddoedd

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Bu gwelliant cyffredinol yn arferion ffermydd Cymru rhwng 2009 a 2016 wrth reoli pridd, a'r arferion hynny'n gymharol syml i'w rhoi ar waith ac yn golygu costau cyfalaf isel, fel profi maethynnau pridd. Gwelwyd cynnydd mewn camau penodol i reoli pridd yn enwedig ar gaeau glaswelltir ar ffermydd godro.
  • Mae carbon yn yr uwchbridd wedi bod yn sefydlog neu wedi cynyddu mewn coetiroedd a phridd tir sydd wedi'i wella dros y 30 mlynedd ddiwethaf.
  • Mae asidrwydd uwchbridd wedi gwella yn yr holl bridd dros y tri degawd diwethaf. Y rheswm mwyaf tebygol am hyn yw'r gostyngiadau mawr, ers y 1970au pan oeddent ar eu mwyaf cyffredin, mewn llygryddion asidiedig sy'n cael eu hallyrru a'u dyddodi ledled y DU.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Gwelwyd cynnydd diweddar yn asidrwydd yr uwchbridd ar dir wedi'i wella. Efallai fod hyn o ganlyniad i'r lleihad a welwyd ers tro yn y defnydd o galch ynghyd â'r ffaith bod gwrtaith yn dal i gael ei ddefnyddio.
  • Mae carbon wedi'i golli o'r uwchbridd yn ddiweddar mewn cynefinoedd, a'r crynodiad o garbon mewn glaswelltir asid yn bennaf gyfrifol am hynny. Mae angen dadansoddi'r rhesymau dros hyn ymhellach, gan nad oedd disgwyl hyn.
  • Amcangyfrifir mai canran y tir âr a'r glaswelltir sydd wedi'i wella yng Nghymru sy'n cael ei ddraenio yw 23%. Dywedodd ffermwyr yn ein Harolwg o Arferion Ffermwyr fod angen atgyweirio neu adnewyddu 40% o'r draeniau hyn. Os nad yw glaswelltir yn cael ei ddraenio'n iawn, gall hynny arwain at ragor o allyriadau ocsid nitrus, gall effeithio ar dyfiant gwair, a gall beryglu difrodi'r pridd wrth i anifeiliaid ei sarnu ac wrth i beiriannau ei gywasgu. Dyma faes y gall Llywodraeth Cymru ystyried ei archwilio ymhellach, gan y gallai fod.

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

FIGURE-GMEP-S-OUTCOME-A-3

 

FIGURE-GMEP-S-OUTCOME-B-1

 

FIGURE-GMEP-S-OUTCOME-C-1

 

TABLE-GMEP-S-OUTCOME-A-3