Tirwedd ac Mynediad

Available Translations:

Crynodeb o ganlyniadau Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG) yn ôl canlyniadau Unigol Glastir

Mae ystod eang o ganlyniadau ar gael yn awr o prosiect Rhaglen Monitro a Gwerthuso Glastir (RhMaGG). Mae'r rhain yn darparu tystiolaeth o newidiadau parhaus i Adnoddau Naturiol Cymru. Cytunwyd ar is-set o ganlyniadau gyda Llywodraeth Cymru a Grŵp Cynghori RhMaGG fel dangosyddion lefel uchel ar gyfer 6 Canlyniad Cynllun Glastir ac fe'u cyflwynir yma. Y chwe chanlyniad yw:

  • Gwrthsefyll newid hinsawdd
  • Gwella ansawdd dŵr a rheoli adnoddau dŵr
  • Gwella ansawdd a rheolaeth pridd
  • Cynnal a gwella bioamrywiaeth
  • Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad
  • Creu coetir a'i rheoli

Mae gwaith RhMGG wedi cynnwys: dros amser, cynnal arolwg maes cenedlaethol o 300 o sgwariau 1km gyda'u hanner yn dir a oedd yn rhan o'r cynllun a'r hanner arall y tu allan i'r cynllun; dadansoddiadau newydd o ddata hirdymor o raglenni monitro eraill; datblygu dangosyddion newydd; modelu er mwyn edrych ar ganlyniadau posibl yn y dyfodol; cynnal arolygon i asesu'r manteision economaidd-gymdeithasol ehangach; a manteisio ar dechnolegau newydd a datblygu'r rheini.

Mae'r dangosyddion hyn wedi'u cynnwys yn yr adrannau sy'n rhoi'r Prif Ganlyniadau isod hon er mwyn rhoi crynodeb bras o gasgliadau arwyddocaol RhMGG, naill ai ar ffurf 'canlyniadau cadarnhaol' neu 'feysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach'.

Y Prif Ganlyniadau: Effeithiau Glastir

Roedd RhMGG yn gyfrifol am roi'r wybodaeth sylfaenol, gychwynnol er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol. Bydd arolygon maes yn y dyfodol yn rhoi'r brif dystiolaeth ar gyfer y newid gwirioneddol mewn perthynas â'r chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd. Er mwyn cael gwybodaeth gynnar ynghylch yr effeithiau tebygol ar y chwe chanlyniad gwreiddiol a fwriadwyd drwy Glastir yn y dyfodol, defnyddiwyd set o fodelau a dulliau cyfrifyddu er mwyn rhagamcanu'r effeithiau tebygol ar ôl ymyrryd mewn dulliau rheoli, a hynny yn achos pridd, dŵr, bioamrywiaeth, newid yn yr hinsawdd a choetiroedd.

Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad

Canlyniadau Cadarnhaol: Effeithiau Glastir

  • Dim ar hyn o bryd. Mae data sylfaenol ar gael er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Effeithiau Glastir

  • Dim ar hyn o bryd. Mae data sylfaenol ar gael er mwyn asesu effeithiau Glastir yn y dyfodol.

Casgliadau manwl: Effeithiau Glastir

Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Efeithiau Glastir, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

Y Prif Ganlyniadau: Tueddiadau Cenedlaethol

Mae arolwg maes 'Cymru Ehangach' RhMGG, sy'n cael ei gynnal dros amser, yn rhoi'r boblogaeth reoli ar gyfer asesu newidiadau sy'n deillio o Glastir yn y dyfodol. Un o fanteision y dull strwythuredig o samplo cefn gwlad a ddefnyddir yn arolwg Cymru Ehangach yw bod y boblogaeth reoli hon hefyd yn rhoi asesiad diduedd cenedlaethol o stoc a chyflwr cynefinoedd a rhywogaethau cyffredin, gan gynnwys coetiroedd, pridd, nentydd bychan a phyllau dŵr. Gellir creu cysylltiad rhwng canlyniadau RhMGG a thueddiadau yn y gorffennol, gan roi cyd-destun i'r hyn a ganfyddir.

Rheoli tirweddau ac amgylchedd hanesyddol a gwella mynediad i'r cyhoedd i gefn gwlad

Canlyniadau Cadarnhaol: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Bu cynnydd yn nifer y llwybrau tramwy cyhoeddus sy'n rhwydd eu defnyddio. Mae 66% o hawliau tramwy cyhoeddus bellach yn rhwydd i'w defnyddio. Mae'n ymddangos bod hyn wedi cynyddu'n raddol dros y 10 mlynedd ddiwethaf o'r ffigur cychwynnol o tua 40%, a hynny o bosibl yn sgil prosiectau a grantiau a gyflwynwyd yn dilyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, er y byddai angen profi'r cysylltiad hwn.

Meysydd sy'n achosi pryder neu sy'n galw am gamau pellach: Tueddiadau Cenedlaethol

  • Mae 57% o nodweddion yr amgylchedd hanesyddol mewn cyflwr da neu ragorol. Mae hyn yn is na'r asesiadau a wnaed gan CADW ar gyfer adeiladau rhestredig a henebion rhestredig, a allai fod yn adlewyrchiad o'r ffaith bod eu niferoedd yn uwch ac felly ei bod yn fwy o her i'w gwarchod.
  • Y bygythiadau mwyaf a ganfuwyd ar y safleoedd oedd llystyfiant (50%); difrod i stoc (25%) fel potsio, tyllu, erydu llwybrau; a gweithredoedd amaethyddol (13%), fel rhychu, aredig, draenio, clirio cerrig, gwella porfeydd ac ati.

Casgliadau manwl: Tueddiadau Cenedlaethol

Cewch fwy o wybodaeth am dueddiadau cenedlaethol o fewn ddangosyddion lefel uchel RhMGG yn y ffigyrau a thablau isod. Am wybodaeth fwy manwl ynghylch data a chasgliadau sy'n berthnasol i Dueddiadau Cenedlaethol, gallwch lawr lwytho crynodeb gweithredol RhaMGG, neu adroddiad terfynol RhaMGG ar y dudalen Adnoddau.

FIGURE-GMEP-L-OUTCOME-A-3